DATGANIAD O GENHADAETH CAVS
I feithrin, datblygu, ehangu a chefnogi trydydd sector cynaliadwy a bywiog, lle mae gwirfoddoli a gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, er budd cymunedau a dinasyddion Sir Gaerfyrddin.
I ddarparu arweiniad, cymorth a chefnogaeth i sefydliadau a grwpiau cymunedol, gan eu galluogi i ddod yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Gweithio mewn partneriaeth ac ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol, ein nôd yw i gryfhau a grymuso sefydliadau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin
Beth yw CAVS?
Mae CAVS yn elusen annibynnol, y corff ymbarél ar gyfer y trydydd sector yn Sir Gâr
Mae CAVS yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fudiadau a grwpiau cymunedol, gan eu galluogi i ddod yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Adroddiad Blynyddol CAVS 2019-20
CTSC – Cefnogi Trydydd Sector Cymru
Mae CAVS yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y dyfodol. www.cefnogitrydyddsector.cymru
Rydym yn gweithio ar draws 4 colofn i gefnogi’r trydydd sector ac yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus, busnes, ymchwil a hwyl.
Llywodraethu da
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
- Codi proffil y sector
- Hyrwyddo systemau sicrhau ansawdd
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor
- Hwyluso mynediad at wasanaethau a buddion ymarferol
- Darparu mynediad at gyllid
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
- Codi proffil y sector
- Cefnogi modelau darparu gwasanaethau a mentrau newydd
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor
- Hwyluso mynediad at wasanaethau a buddion ymarferol
- Darparu mynediad at gyllid
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
- Codi proffil y sector
- Cefnogi modelau darparu gwasanaethau a mentrau newydd
- Platfform am ddim i chwilio am arian – Cyllido Cymru
Ymgysylltu a Dylanwadu
- Darparu gwybodaeth a chyngor ar bolisi
- Codi llais y trydydd sector
- Cefnogi ymgyrchu
- Darparu grantiau
- Galluogi recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
- Cefnogi rheoli gwirfoddolwyr
- Hwyluso rhwydweithiau a chyfathrebu
- Hyrwyddo cydnabod a gwobrwyo
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
(Mae CAVS hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ymarferol gan gynnwys benthyg offer hyfforddiant, a hurio ystafell gyfarfod yn y swyddfa yng Nghaerfyrddin. Nid ydym yn gallu darparu’r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. )