
Age Cymru Dyfed -Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau
Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau / Creu Cymuned Gyfeillio
A hoffech chi fod yn rhan o brosiect newydd, arloesol lle rydych chi, fel person hŷn, yn cael eich grymuso i ddatblygu cyfeillgarwch a phrofiadau cymdeithasol ystyrlon sydd wedi’u teilwra’n arbennig i’ch anghenion, ac yn eich cymuned chi?Mae adegau ym mywyd pob un ohonom pan fod angen help llaw arnom, yn unigol ac ar y cyd, ond gall fod yn anodd gwybod lle mae dod o hyd i gyfeillachwr sy’n deall.
Mae prosiect newydd, cyffrous Age Cymru Dyfed, Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau / Befriending Life Links, yn gweithredu ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro, a’i nod yw newid wyneb cyfeillio, gan ganolbwyntio ar adeiladu cymuned yn hytrach na gwasanaeth. Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau a ddaw yn sgil heneiddio, a byddwn yn sicrhau eich bod CHI a’ch anghenion yn cael eu clywed yn gyntaf bob amser, a bod pobl o’r un meddylfryd yn cyfarfod ac yn cael eu cefnogi i feithrin ymdeimlad dyfnach o hunan-werth a pharch.
Gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael ag unigrwydd drwy ddangos caredigrwydd. Mae ein Cydlynwyr Sir bob amser yn falch o glywed gennych – mae croeso i chi gysylltu â nhw.
Sir Gâr:
Jo-Anne Zapettis Jo-Anne.Zapettis@agecymrudyfed.org.uk
Sir Ceredigion:
Sue Lewis sue.lewis@agecymrudyfed.org.uk
Sir Benfro:
Emma Bingham emma.bingham@agecymrudyfed.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.