
Age Cymru Dyfed -Swyddi
Rheolwr Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor (GaCh)
Cyflog: 24,992 – £26,991 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Un o swyddfeydd Age Cymru Dyfed.
Mae teithio ledled Sir Benfro ac ar draws y tair sir yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am berson hunangymhellol, brwdfrydig, gweithgar i ymuno â’n helusen sydd wedi uno’n ddiweddar, ar gyfnod cyffrous yn ei datblygiad. Byddwch yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r funud i bobl hŷn a’u gofalwyr mewn lleoliadau allgymorth ar draws Sir Benfro. Byddwch yn gyfrifol am reoli a chyflenwi gwasanaethau GaCh yn ACD yn effeithiol, gan gydymffurfio â’r safonau ansawdd cymeradwy. Byddwch hefyd yn goruchwylio ac yn cefnogi Swyddog GaCh Sir Gâr, ynghyd â thîm bach o wirfoddolwyr gwybodaeth a chyngor yn Sir Benfro.
Anfonwch e-bost at: info@agecymrusirgar.org.uk am ragor o wybodaeth.
Dyddiad cau: 23 Mawrth 2020
Cynorthwyydd Personol/Uwch Weinyddwr i’r Prif Swyddog Gweithredol
Cyflog: £22,462 y flwyddyn
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Aberystwyth, gyda theithio achlysurol
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Personol/Uwch Weinyddwr brwdfrydig, gweithgar a thra threfnus i ymuno â’n helusen sydd wedi uno’n ddiweddar, ar gyfnod cyffrous yn ei datblygiad. Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol i’r Prif Swyddog Gweithredol, gan ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer swyddogaethau mewnol craidd a gwasanaethau allweddol, yn cynnwys Adnoddau Dynol.
Mae 2 flynedd o brofiad o leiaf mewn darparu cymorth i uwch-reolwyr yn hanfodol, ynghyd â sgiliau TG rhagorol, profiad o reoli, datblygu a gwella systemau gweinyddu swyddfa, trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau hygyrch, a chymryd nodiadau/cofnodion cywir.
Anfonwch e-bost at: info@agecymrusirgar.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Dyddiad cau: 23 Mawrth 2020
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.