
Age Cymru Swyddog Codi Arian
Oes gennych chi feddylfryd masnachol, ydych chi’n godwr arian proffesiynol gyda phrofiad blaenorol o godi arian i elusennau, ydych chi’n chwilio am her newydd? Mae Age Cymru Sir Gâr yn chwilio am gyfathrebwr dynamig, egnïol, brwd. Mae hwn yn gyfle i ddefnyddio eich dawn a’ch egni i ddylanwadu ar ffurf a thwf codi arian mewn elusen fechan sydd â chenhadaeth fawr.
Bydd eich sgiliau, eich meddylfryd a’ch ymrwymiad i’n gweledigaeth o helpu pobl hŷn yn hanfodol i’n helpu i ddatblygu fel y sefydliad rydym eisiau bod, a bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi newid bywydau rhai o’r bobl hŷn mwyaf agored i niwed yng Ngorllewin Cymru er gwell.
Ar gyfer y rôl hon, mae angen i chi feddu ar sgiliau ysgrifennu a llafar rhagorol, a bod yn effeithiol ac yn gymelliadol. Bydd gennych brofiad o gyrraedd neu ragori ar y targedau incwm a bennwyd a hanes blaenorol o feithrin perthnasau â rhoddwyr er mwyn sicrhau rhoddion sylweddol. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth gadarn o Ddiogelu Data, y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, Cod Ymarfer y Sefydliad Codi Arian a Marchnata a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau ar gyfer codi arian a sut mae hyn yn effeithio ar godi arian.
Mae Age Cymru Sir Gâr yn gyflogwr hyblyg sy’n fodlon ystyried amrywiol ffyrdd o weithio. Mae’n cynnig y cyfle hwn i rywun sydd eisiau datblygu eu gyrfa ymhellach i gynnwys amrywiaeth eang o agweddau ar godi arian. Mae’r swydd yn un 25 awr ar gyflog o £17,043 (gwirioneddol).
Dyddiad cau: Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2019
Gweler y wefan am ffurflen gais: https://www.ageuk.org.uk/cymru/sirgar/about-us/work-for-us/
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.