
Trafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi :Gweithiwr Prosiect Loteri Rhydaman
(Ein Cyfle i Deithio / Our Opportunity to Travel)
DISGRIFIAD SWYDD
Swydd: Cydlynydd Prosiect
Cyflog: £15,000 y flwyddyn (Pro rata)
Oriau: 17 awr yr wythnos
Tymor Contract: Cyfnod penodol am 12 mis
(Bydd y swydd yn cynnwys gwaith achlysurol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau a chaniateir amser yn rhydd yn gyfnewid am hyn).
Yn atebol i: Rheolwr Swyddfa a Bwrdd Cyfarwyddwyr Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen
Canolfan Weithio Swyddfa Llandysul yn bennaf, ond gweithio’n achlysurol o ganolfannau eraill.
Trwydded Yrru: Hanfodol + D1 yn ddymunol
Teithio: Mynediad i gludiant yn hanfodol. Ad-delir treuliau teithio ar gyfer dyletswyddau a gymeradwywyd.
Gwyliau blynyddol: 25 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â gwyliau cyhoeddus statudol
Cyfnod prawf: Tri mis.
Nod: Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth cludiant cymunedol penodedig cwbl hygyrch yn bennaf ond nid yn unig i grwpiau cymunedol yn ardal Rhydaman.
Rolau & Chyfrifoldebau:
- Hyrwyddo a datblygu nodau ac amcanion Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen trwy ymestyn a datblygu cyfleoedd teithio newydd yn ardaloedd Rhydaman, gan helpu i leihau ynysu cymdeithasol.
- Rheoli holl agweddau o ddydd i ddydd y prosiect gan gynnwys gwirfoddolwyr ac aelodau newydd, ac archebion y bws mini.
- Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo a marchnata gwasanaethau’r prosiect.
- Recriwtio gyrwyr gwirfoddol; trefnu MIDAS (Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini) ac unrhyw hyfforddiant perthnasol arall.
- Datblygu a rheoli’r prosiect gan sicrhau cynaladwyedd hir dymor.
- Sicrhau bod y prosiect yn cwrdd ag allbynnau, dangosyddion a deilliannau a nodir yn y cais am gyllid.
- Gwella gwasanaethau Cludiant Cymunedol grwpiau gan ei wneud yn hygyrch i ystod eang o sefydliadau cymunedol ac anabledd.
- Integreiddio’r prosiect gyda chludiant cyhoeddus presennol, pryd bynnag mae hynny’n bosibl.
- Trefnu cyflwyniadau a sgyrsiau ymwybyddiaeth i sicrhau bod y bysiau yn cael eu defnyddio gan bob sector berthnasol o’r gymuned.
- Monitro a gwerthuso’r prosiect a darparu adroddiadau cynnydd ar gyfer adrodd yn ôl.
- Trefnu cyfarfodydd deufisol gyda rhanddeiliaid allweddol a defnyddwyr i fonitro a gwella’r prosiect, gan archwilio cynaladwyedd hir dymor.
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a sicrhau bod barn grwpiau ymylol yn cael ei gynrychioli yng ngwaith y prosiect, gan nodi’n arbennig y mater o stigma.
DATGANIAD HYBLYGRWYDD
Mae cynnwys y Disgrifiad Swydd hwn yn cynrychioli amlinelliad o’r swydd yn unig ac felly nid yw’n gatalog manwl o’r dyletswyddau a chyfrifoldebau. Bwriedir y Disgrifiad Swydd felly i fod yn hyblyg ac mae’n atebol i’w adolygu a’i ddiwygio yn wyneb newid mewn amgylchiadau, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r deiliad swydd.Gellir ychwanegu tasgau eraill yn ôl disgresiwn y Bwrdd Cyfarwyddwyr.
POLISIAU A GWEITHDREFNAU
Disgwylir i’r gweithiwr ddarparu gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a disgwylir iddo/iddi weithio o fewn polisiau a gweithdrefnau’r sefydliad.
Contact:
Rod Bowen (Development Officer)
Dolen Teifi
Old Post Office
New Road
Llandysul
Ceredigion
SA444QJ
Office :- 01559362403
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.