
Diweddariad Brexit Cymru – gwybodaeth gan Hywel Dda
Deallwn fod gan ein staff, y bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw a’r cleifion bryderon, o bosibl, ynghylch ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE. Gallwch ddod o hyd i lawer iawn o wybodaeth yn y mannau allweddol canlynol:
- Y Cyhoedd – Mae “Preparing Wales/Paratoi Cymru” wales/preparingwales / llyw.cymru/paratoicymru yn ffynhonnell wybodaeth sengl, gynhwysfawr ar gyfer pobl Cymru sy’n nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit ‘heb gytundeb’
- Gweithwyr Iechyd Proffesiynol – Mae Conffederasiwn GIG Cymru wedi cynhyrchu dogfen yn cynnwys cwestiynau cyffredin, sy’n anelu at ateb rhai o’r prif gwestiynau sy’n gyffredin ymhlith y rheiny sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwch gael mynediad at y ddogfen, Managing EU withdrawal in health and social care in Wales: Frequently asked questions
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – os oes gennych ymholiadau lleol penodol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i dudalen adnoddau ein gwefan ar Brexit i gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer cynllunio brys, Adnoddau Dynol a chyfathrebu
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/98107
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.