
Gofalwyr yn y Cof a Chadw Gofalwyr Ifanc yn y Cof – 2 gwrs e-ddysgu
Dirk Neumann Ymgynghorydd Dysgu a Datglygu (Gofal Cymunedol)
I‘r holl staff : Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Y Sector Gwirfoddol, Y Trydydd Sector
Ym mis Mehefin 2017 gwahoddodd y tîm Datblygu Trefniadaeth staff i gofrestru ac i gwblhau dau gwrs e-ddysgu ynghylch Cadw Gofalwyr yn y Cof a Chadw Gofalwyr Ifanc yn y Cof (diweddarwyd ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Disgwylir i’r holl staff Gofal Cymdeithasol gael ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar ofalwyr anffurfiol ledled y DU ac i gydnabod eu cyfraniad o ran darparu gofal i deuluoedd a chefnogi cymunedau.
Fel y gwyddoch, Gofalwr yw rhywun sy’n darparu cymorth anffurfiol di-dâl i unigolyn neu unigolion nad ydynt yn gallu cynnal eu hunain. Mae gofalwyr anffurfiol yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas drwy ddarparu cymorth personol, cymdeithasol, ariannol, emosiynol a chorfforol i eraill bob dydd. Yn achos gofalwyr ifanc, yn aml mae’r syniad o jyglo pwysau tyfu i fyny a chreu dyfodol ynghyd â’r gofynion corfforol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â darparu gofal i aelodau o’u teuluoedd yn hynod o anodd.
Bydd cwblhau’r ddau gwrs e-ddysgu yn helpu staff i fodloni eu cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol o dan Ddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.
I gael mynediad at y cyrsiau hyfforddiant (e-ddysgu), cwblhewch y ffurflen gais isod â’i dychwelyd i: Dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.