
Hysbyseb Swydd
Teitl swydd: Rheolwr Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr
Lleoliad: Y Palfau, Llanelli
Yn atebol i: Rheolwr Datblygu Gwasanaeth
Cyflog: £ 25,463 – £ 27,358 pro rata y flwyddyn yn ddibynnol ar brofiad
Oriau: 37 awr yr wythnos
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim a chyfrinachol i ofalwyr ledled y sir. Mae’r gwasanaeth yn cynhyrchu ac yn dosbarthu gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o fformatau, gan ddarparu cefnogaeth un-i-un drwy’r gwasanaeth allgymorth, i sicrhau bod Gofalwyr yn ymwybodol o’r gefnogaeth
Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i
- meddu ar gymwysterau a phrofiad o fewn y maes gwaith perthnasol hwn
- gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ein Gofalwyr a’n rhan ddeiliaid allweddol
- datrys ymholiadau yn unol â safonau a gweithdrefnau cytunedig
- bod â phrofiad o fewnbwn data a’r gallu i ddarparu gwybodaeth ystadegol gywir a chynhyrchu adroddiadau yn ôl yr angen
- meddu ar lefel uchel o sgiliau TG (byddai’n fantais cael gwybodaeth uwch o Word, Excel, Publisher)
- arwain a chymell ein tîm ymroddedig yn llwyddiannus, gan ddarparu goruchwyliaeth effeithiol, ymarfer myfyriol a chyfarfodydd tîm gyda staff.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 12 yp dydd Gwener 24 Awst 2018
Dyddiad cyfweld i’w gadarnhau
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Alison Harries neu Jo Silverthorne 01554 754957
For an application pack please contact Chelsey James on 01554 754957 or email chelsey@carmarthenshirecarers.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.