Ein Gwaith
Mae Gwasanaeth Cynhalwyr Sir Gâr wedi’u mabwysiadu â Cynhalwyr Cymru, ac yn cynhyrchu ac yn dosbarthu gwybodaeth, yn arwain pobl sy’n gofalu at ffynonellau cymorth a chefnogaeth trwy wasanaeth ffôn, ac yn hwyluso’r Fforwm Cynhalwyr Sir Gâr. Trwy’r Fforwm Cynhalwyr, caiff cynhalwyr eu hannog i fod yn rhan o’r broses o gynllunio, datblygu ac adolygu gwasanaethau.
Mae’r Gwasanaeth Cynhalwyr yn hwyluso’r Rhwydwaith Gwasanaethau Cefnogi Cynhalwyr (RGCC), fforwm darparwyr i sefydliadau ymglymedig â chefnogi cynhalwyr.
Mae’r Gwasanaeth Cynhalwyr yn gweithio’n agos gyda’r Swyddog Cyd-Ddatblygu Cynhalwyr.
Rhwydwaith Gwasanaethau Cefnogi Cynhalwyr
Rhwydwaith anffurfiol o grwpiau a mudiad Gwirfoddol yw’r Rhwydwaith Gwasanaethau Cefnogi Cynhalwyr.
Mae’n gweithio i hyrwyddo cydnabyddiaeth i gynhalwyr yn Sir Gâr, ac mae’n ceisio dylanwadu ar gynllunio, comisiynu a datblygu gwasanaethau i gynhalwyr.
Rydym yn cwrdd o leiaf pedair gwaith y flwyddyn ar gyfer busnes arferol, ac rydym yn cynnal digwyddiad Diwrnod Hawliau Cynhalwyr blynyddol ac yn cynnal digwyddiadau yn ystod Wythnos Cynhalwyr.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhalwyr ar 0300 0200 002 neu e-bostiwch carers@cavs.org.uk.
Newyddion Cynhalwyr Sir Gâr
Mae cylchlythyr chwarterol Newyddion Cynhalwyr Sir Gâr yn cael ei ddosbarthu i gynhalwyr unigol, Meddygfeydd, Canolfannau Cyngor ar Bopeth, gwasanaethau dydd a mudiadau gwirfoddol. Trwy’r cylchlythyr rydym yn anelu at drosglwyddo gwybodaeth i gynhalwyr a’r bobl maent yn gofalu amdanynt, ar faterion yn ymwneud â pholisïau, gwasanaethau a sefydliadau a all fod o gymorth iddynt.
Os oes gennych unrhyw syniadau, erthyglau neu gyfraniadau ar gyfer y rhifyn nesaf o Newyddion Cynhalwyr Sir Gâr, yna mae croeso i chi gysylltu â ni, rydym yn croesawu cyfraniadau gan gynhalwyr a chyn-gynhalwyr yn arbennig.
Os hoffech dderbyn copi caled o’r cylchlythyr a’ch bod yn fodlon i’ch enw chi i gael ei ychwanegu at ein rhestr bostio gyfrinachol, yna ffoniwch y Gwasanaeth Cynhalwyr ar 0300 0200 002 neu e-bostiwch carers@cavs.org.uk.


