Pecyn Gwybodaeth ar gyfer Cynhalwyr

Mae’r pecyn gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth werthfawr a manylion cyswllt ar gyfer yr amrywiaeth lawn o anghenion cefnogaeth a gwasanaeth sydd gan y cynhaliwr a’r person sy’n derbyn gofal, yn amrywio o gyngor ar wasanaethau gofal cymunedol y gwasanaethau cymdeithasol, i wasanaethau a ddarperir gan fudiadau gwirfoddol, cyngor ar faterion ariannol a budd-daliadau, a materion yn ymwneud â thai.

Cynhyrchwyd y pecyn yn wreiddiol gan weithgor o gynrychiolwyr o grwpiau cynhalwyr lleol, Cymdeithas Cenedlaethol y Cynhalwyr, Soroptomistiaid, Awdurdod Iechyd Dyfed a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin.

Fe allwch chi lawrlwytho’r Pecyn Gwybodaeth ar gyfer Cynhalwyr oddi ar y wefan hon. Cafodd y pecyn ei diweddaru yn Ebrill 2012.

Mae yna ddwy ddogfen:

  • Y ddogfen Prif Wybodaeth Lawrlwythwch PECYN GWYBODAETH yma (PDF 240KB). Yn y ddogfen hon, dangosir y ffordd i chi at fanylion cyswllt sydd wedi eu rhestru yn y ddogfen Cardiau Mynegai.
  • Y ddogfen Cardiau Mynegai Lawrlwythwch CARDIAU MYNEGAI yma (PDF 170KB). Mae’r ffeil hon yn cynnwys yr holl fanylion cyswllt, wedi eu trefnu’n adrannau.

Neu cysylltwch â ni ar 0300 0200 002 neu e-bostiwch carers@cavs.org.uk.  

Share