
Cysylltu Gofalwyr Caerfyrddin
Grŵp Cymdeithasol Newydd i Ofalwyr
Ydych chi’n gofalu am rywun?
Ymunwch â ni am weithgareddau a gweithdai hwyliog ar faterion Gofalwyr.
Mwynhewch ychydig o amser i chi.
Rydym yn annog Gofalwyr sy’n gofalu am rywun â Dementia, problemau iechyd meddwl a Gofalwyr hŷn yn arbennig.
Cysylltu Gofalwyr Caerfyrddin
Y Ganolfan Anogaeth, Lle Cambrian, Stryd Ioan,
Caerfyrddin SA31 1QG
Cynhelir pob dydd Gwener o 11yb – 1yh
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Vanessa Buckler, os gwelwch yn dda:
Rhif ffȏn 0300 0200 002 / E-bost: vanessa@carmarthenshirecarers.org.uk
Lawrlwytho Poster ac Amserlen Weithgareddau
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.