
Banc Bwyd Caerfyrddin
Yn swyddfa CAVS, mae gennym pwynt casglu Banc Bwyd Caerfyrddin i’r rhai sy isie rhoi bwyd tuag at yr achos yma (gweler y rhestr ynghlwm).
Yn ystod yr wythnosau nesa, mae CAVS yn cynnal sawl cyfarfod cyhoeddus, er enghraifft :-
- Dydd Iau 16eg Tachwedd
Rhwydwaith Ymddiriedolwyr - Dydd Mawrth 21ain Tachwedd
Cyfarfod Cyffredinol Cyhoeddus a Ffair Nawdd CAVS - Dydd Iau 7fed Rhagfyr
Fforwm y 3ydd Sector
Felly, os ydych yn mynychu’r cyfarfodydd uchod, neu dim ond yn pasio’n swyddfa ni, mae croeso i chi ddod mewn ag eitem(au) i’r Banc Bwyd. Mae cynrychiolydd o’r Banc Bwyd yn casglu’r rhoddion o swyddfa CAVS ar fore Dydd Gwener 8fed Rhagfyr.
Gyda’n gilydd gallwn neud gwahaniaeth mawr i unigolion a theuluoedd sydd mewn argyfwng.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.