
Cronfa Ymateb Cymunedol COVID- 19 Sir Gâr
MAE’R CRONFA HON WEDI CAU
Mae cronfa grant newydd wedi’i lansio i helpu sefydliadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin mewn ymateb i bandemig COVID19.
Mae Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gaerfyrddin yn gynllun ar y cyd a gefnogir gan
- Gyngor Sir Caerfyrddin,
- CAVS (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin)
- Cronfa fferm wynt Mynydd y Betws,
- LEADER,
- Cronfa’r Eglwys yng Nghymru,
- partneriaeth gofal Gorllewin Cymru
- a Llywodraeth Cymru.
Gall sefydliadau cymwys wneud cais am uchafswm o £1000 er mwyn cefnogi mudiadau sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin i gynnal neu gynyddu gweithgareddau sy’n cefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ystod argyfwng coronafeirws (COVID-19).
I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â admin@cavs.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.