
CDAS: Gweithiwr Allweddol ym maes Camdriniaeth Ddomestig
Gweithiwr Allweddol ym maes Camdriniaeth Ddomestig – 24 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2019
£19,656-£22,200 (pro rata)
Crynodeb:
Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio recriwtio Gweithiwr Allweddol ym maes Camdriniaeth Ddomestig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n Gwasanaeth Camdriniaeth Ddomestig yng Nghaerfyrddin, sy’n gwerthfawrogi dulliau seiliedig ar gryfderau wrth gefnogi ei gleientiaid.
Amdanom Ni:
Rydym yn Wasanaeth Camdriniaeth Ddomestig wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, sydd â ffocws clir ar gefnogi menywod, dynion a phlant y mae camdriniaeth ddomestig yn effeithio arnynt. Rydym yn helpu’r rheiny yr effeithir arnynt i oroesi, ac yn eu cynorthwyo ar hyd y daith.
Rôl y Swydd:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflawni gwasanaeth priodol o ran cymorth a gweithio allweddol, gan ymateb i anghenion emosiynol, ymarferol a datblygiadol menywod, dynion a phlant sy’n byw yn ardal Caerfyrddin, ac sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig yn flaenorol, neu sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig ar hyn o bryd.
Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, bydd deiliad y swydd yn galluogi defnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu bywydau, yn ogystal â newidiadau cadarnhaol, er mwyn lleihau risgiau a gwella eu dyfodol. Gan ddefnyddio egwyddor hunangymorth, bydd yn annog annibyniaeth ac yn grymuso defnyddwyr y gwasanaeth i lwyddo ar bob lefel.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan yn rotas ar alwad 24 awr y sefydliad.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Oherwydd natur y rolau, maent yn agored i ymgeiswyr benywaidd yn unig. (Wedi’u heithrio o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1)
Dyddiad Cau: 21 Medi 2018
Cyfweliad: 27 Medi 2018
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.