
Dathlu Gwirfoddoli a Blwyddyn y Môr
Ymunwch â ni er mwyn
Dathlu Gwirfoddoli a Blwyddyn y Môr
…yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, diwrnod o grefftau, gweithgareddau morol a gwybodaeth am wirfoddoli’n lleol
6 Mehefin 2018 11am-3pm yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
Mae Volunteering Matters yn gweithio gydag Amgueddfa Wlân Cymru a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr ac amrediad o grwpiau lleol eraill, ac rydym yn gobeithio y cewch gyfle i gyfarfod rhai gwirfoddolwyr lleol i ni gael diolch i chi’n bersonol am eich gwaith.
Rhaglen y Diwrnod (galwch heibio unrhyw bryd!)
- 11am- Croeso
- 11am-3pm – Stondinau Sefydliadau Gwirfoddoli, Arddangosiadau Crefft a Groto Blwyddyn y Môr yr Amgueddfa
- 12.15pm – Cinio Ysgafn (rhowch wybod am unrhyw anghenion dietegol ar y ffurflen isod)
- 1pm-1.45pm – Gweithdy atgofion glan y môr gyda disgyblion Ysgol Gynradd Penboyr (nifer cyfyngedig o lefydd, rhaid archebu)
- 1.45-2.30pm – Gweithdy addurno cacennau gyda disgyblion Ysgol Gynradd Penboyr (nifer cyfyngedig o lefydd, rhaid archebu)
- Hefyd, bydd telynorion Cymdeithas Clarsach – Cangen Cymru yn ein swyno drwy’r dydd
Gobeithiwn eich gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Sir Gaerfyrddin SA44 5UP. Os hoffech ymuno â ni, atebwch erbyn 11 Mai 2018. Cysylltwch â kate.evans@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch 029 2057 3070.
Cyfarwyddiadau: www.amgueddfa.cymru/gwlan/ymweld/lleoliad/
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.