
Hyfforddiant Y Gwasanaeth Plant
HYFFORDDIANT Y GWASANAETH PLANT | ||
Y Cwrs: | CEFNOGI PLANT AG ANHWYLDER SBECTRWM AWTISTIAETH (ASD) – CYFLWYNIAD AR GYFER YMARFERWYR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL | |
Lleoliad: | 19/10/17 & 6/12/17 – Caerfyrddin, 6/2/18 – Rhydaman | |
Dyddiad(au): | 19/10/17, 6/12/17, 6/2/18 | |
Amser: | 19/10/17 – YYB, 6/12/17 & 6/2/18 YYB neu YYP | |
Hyd y cwrs: | 2 1/2 awr | |
Tiwtor y Cwrs: | Kirsty Jones (Swyddog Prosiect Allgymorth Cymunedol ASD) | |
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad? | ||
YMARFERWYR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL – Datblygwyd y cwrs hwn i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Yn seiliedig ar anghenion dynodedig gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, ac argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), mae’r adnodd dysgu hwn yn rhoi cyflwyniad defnyddiol, a dylid ei ddefnyddio i arwain at hyfforddiant mwy dwys. | ||
Beth yw’r amcanion? | ||
· Nod y sesiwn hwn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).
· Nod y sesiwn hwn yw rhoi cyngor i ymarferwyr ynghylch sut i addasu eu rhyngweithio a’u harferion. · Nod y sesiwn hwn yw darparu syniadau ymarferol a chyflwyno adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol wrth gefnogi plant ag ASD. · Cwblhau cynllun ardystio – bydd modd lawrlwytho tystysgrif ar ôl cwblhau hyn yn llwyddiannus.
|
||
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth? | ||
· Bydd yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu gofal cymdeithasol o ASD.
· Bydd yn sicrhau bod y gweithlu’n ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth weithio gyda phlant sydd ag ASD a rhieni a gofalwyr plant sydd ag ASD. |
||
Ceisiadau at: | Dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Cyngor Sir Caerfyrddin, Dysgu a Datblygu, Llawr Cyntaf, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3HB Neu gallwch wneud cais ar-lein yma |
|
Darpariaeth Gymraeg | Os hoffech gael yr hyfforddiant hwn drwy gyfrwng y Gymraeg, nodwch hyn ar eich cais |
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.