Mae gan ein rhanbarth Drydydd Sector ffyniannus sy’n cyfrannu at ein cymunedau bywiog. Ein nod yw sicrhau ei ddyfodol trwy raglen newydd gyffrous o gefnogaeth i greu mudiadau cynaliadwy a hyrwyddo potensial mentrau cymdeithasol.
Yn fyr, mae gan Brosiect Cymunedau sy’n Cydeithio ddau nod:
Cefnogi datblygu Trydydd Sector cadarn a chynaliadwy trwy weithio gyda mudiadau Trydydd Sector i fynd i’r afael â materion amlweddog cynaliadwyedd, cadernid trefniadol, dibynnu llai ar grantiau a chynhyrchu incwm
Profi a datblygu potensial heb ei wireddu mentrau cymdeithasol fel math arbennig o ddarparwr gwasanaethau yn ein rhanbarth trwy greu 6 i 10 menter gymdeithasol enghreifftiol sy’n llenwi bylchau yn y farchnad o ran darparu gwasanaethau.
Mae Cymunedau sy’n Cydeithio yn adeiladu ar y cymorth o ansawdd uchel sydd ar gael yn barod trwy rannu arfer gorau a gwella cysondeb. Cynigiwn gyngor ac arweiniad mewn meysydd fel:
- Datblygu Mentrau Cymdeithasol
- Strategaethau ariannu cynaliadwy
- Rhannu, cydweithio a phartneriaeth
- Arddangos effaith gymdeithasol.
Mae’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r Cynghorau Sir yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi ffurfio partneriaeth unigryw i ddarparu cymorth cyson ac o ansawdd uchel ar gyfer mudiadau trydydd sector ar draws y rhanbarth.
Mae’r bartneriaeth yn crynhoi at ei gilydd sgiliau a phrofiad er mwyn rhoi ei hun yn flaenllaw yn natblygiadau Trydydd Sector a chymorth i fentrau cymdeithasol yn Ne-orllewin Cymru.
Gall ffocws rhanbarthol ein prosiect sicrhau y gellir rhannu arfer gorau ar draws y rhanbarth a gwella ansawdd a chysondeb y gynhaliaeth.
Cafodd y prosiect hwn ei ran-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n rhedeg tan fis Rhagfyr 2013.
Cysylltwch â’ch tîm cymorth lleol:
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin: 01267 245555
- Cyngor Sir Caerfyrddin: 01269 590244



