Nod y prosiect yw taclo allgau digidol ymhlith dinasyddion Sir Gâr, gan ddefnyddio technolegau’r cyfryngau digidol, cyrsiau hyfforddiant a gweithdai, cyfleoedd i wirfoddolwyr a phorth arlein. Fe fydd hyn yn sicrhau bod modd helpu unigolion a chymunedau sydd wedi eu hallgau’n ddigidol i ddatblygu sgiliau newydd a hyder ynghylch technolegau amlgyfrwng, gangynnwys fideos, teledu, radio a llwyfannau ar-lein.
Mae Prosiect Ymgysylltu Digidol CVC Media yn brosiect partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymunedau 2.0, ac fe’i datblygwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Rhwydwaith Amlddiwylliant Llanelli, ymhlith eraill.
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu ag Alud Jones ar alud.jones@cavs.org.uk neu Joe O’Hare ar joe.ohare@cavs.org.uk, ffoniwch 01267 245555.



