
CYNGHORYDD AR DDYLEDION
Elusen pobl a chartrefi yng Nghymru yw Shelter Cymru, sy’n ymroi i atal digartrefedd, gwella cyflwr tai, a sicrhau bod gan bawb yr hawl i fwynhau lle diogel, addas a fforddiadwy i fyw.
Rydym ni’n chwilio am rywun ar gyfer y swydd ganlynol i ymuno â’n tîm.
Os ydych chi am helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, hoffem glywed gennych.
CYNGHORYDD AR DDYLEDION – RHIF SWYDD: SC435
SWYDDFA LLANELLI
17.5 awr yr wythnos
£23,263 y flwyddyn (pro rata)
Contract Tan 31 Mawrth 2019
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Gâr yn darparu cyngor arbenigol ar arian/dyledion i gleientiaid, ynghyd â gwasanaethau eirioli a chynrychioli.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd â gwaith achos uniongyrchol ar ddyledion a gweithio yn unol â gofynion Marc Ansawdd ar Ddyledion Arbenigol y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol .
Mae Shelter Cymru’n cynnig telerau ac amodau hael, yn cynnwys 29 diwrnod o wyliau blynyddol i aelodau staff llawn amser ynghyd â 2 ddiwrnod ychwanegol Shelter Cymru
I wneud cais, ewch i’n gwefan yn www.sheltercymru.org.uk neu ffoniwch 01792 469400
Dyddiad Cau: 10 Medi 2018
Mae Shelter Cymru yn herio gwahaniaethu yn ei holl feysydd gwaith ac arferion cyflogaeth.
Rhif Elusen 515902
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.