
Dylunio digwyddiadau creadigol cynhwysol
Photo: ‘Span Arts, Caring Choirs, Singing Tea Party 2016’.
Hoffech chi ddatblygu sgiliau trefnu digwyddiadau creadigol a fydd yn croesawu aelodau newydd i’ch grŵp?
Os ydych chi’n bwriadu trefnu digwyddiad fel rhan o Cer i Greu neu Ŵyl Celfyddydau Gwirfoddol, neu ddim ond eisiau croesawu aelodau newydd i’ch grŵp, ymunwch â Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn eu diwrnod hyfforddi yng Nghaerfyrddin ar 21 Chwefror 2017. Fe fydd y cwrs di-dâl hwn yn rhoi arweiniad ymarferol ynghylch trefnu digwyddiadau sy’n gynhwysol ac yn ddiddorol.
Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at bobl mewn grwpiau celfyddydol neu ddiwylliannol sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb mewn trefnu digwyddiadau, sesiynau blasu cyhoeddus, gweithdai neu berfformiadau.
Fe fydd yna gyfle i ofyn cwestiynau, trafod eich syniadau a’ch pryderon, a byddwn yn cael rhywfaint o hwyl greadigol hefyd!
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Lleoliad: Oriel Myrddin, Stryd yr Eglwys, Caerfyrddin SA31 1 LH
Dyddiad: 21 Chwefror 2017
Amser: 9.30 – 16.00
Darperir cinio a lluniaeth.
https://www.voluntaryarts.org/dylunio-digwyddiadau-creadigol-cynhwysol
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.