
Digwyddiad Galw Heibio Caerfyrddin Datblygu Gwasanaethau Trawma
Rydym yn cynnig datblygu Ysbyty Glangwili Caerfyrddin fel ein Huned Drawma dros dro yn y blynyddoedd cyn adeiladu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Drefnu newydd.
Mae hyn ochr yn ochr â gwaith y Rhwydwaith Trawma Mawr cenedlaethol i leoli y Ganolfan Trawma Mawr ar gyfer de Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.
Bydd y gwasanaethau acíwt a brys sydd yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar hyn o bryd yn aros, a byddant yn parhau i ddelio ag anafiadau trawmatig llai difrifol.
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o 24 Mehefin 2019 tan 5 Awst 2019.
Dyddiad aildrefnu ar gyfer digwyddiad Caerfyrddin
29 Gorffennaf 2019, 3.00pm – 6.00pm
Clwb Bowlio Bro Myrddin
Teras Picton
Caerfyrddin
SA31 3BS
Galwch heibio ar unrhyw adeg rhwng 3pm a 6pm i ddarganfod mwy
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.bihyweldda.wales.nhs.uk/GwasanaethauTrawma o 24 Mehefin 2019
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.