
Swyddog ar gyfer y prosiect “Cysylltu ein Cymunedau drwy Rymuso Cymunedol”
Cyflog £28,000 y flwyddyn
Cytundeb cyfnod penodol 35 awr yr wythnos am gyfnod o 4 blynedd.
Ariennir y prosiect newydd hwn yn gyfan gwbl gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr
Bydd y swyddog prosiect yn gyfrifol am reoli a datblygu’r defnydd o rwydwaith o gerbydau trydan cwbl hygyrch, gan ddatblygu cynllun pasbort cadair olwyn arloesol. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru cyfathrebu yn dda a’r gallu i weithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid gwirfoddol a statudol i ddatblygu’r prosiect.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu gyrru a chael mynediad i’w drafnidiaeth ei hun.
Prif swyddfa yn Llandysul, gyda photensial rhywfaint o weithio gartref.
I gael gwybodaeth fanylach ewch i’n gwefan www.dolenteifi.org.uk/jobs
Gellir cael disgrifiad manyldeb llawn o’r swydd trwy gysylltu â:
Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen: 01559 362403 info@dolenteifi.org.uk
Dyddiad cau: 5pm, 26.10.20
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.