Dolen Teifi  Trafnidiaeth Cymunedol  :Cydlynydd Prosiect

Dolen Teifi  Trafnidiaeth Cymunedol  :Cydlynydd Prosiect

Prosiect Cymunedau Cydweithredol

DISGRIFIAD SWYDD

Swydd:                 Cydlynydd Prosiect

Cyflog:                  £22,000 y flwyddyn

Oriau:              35 awr yr wythnos

Tymor Contract:               Cyfnod penodol am 3 blynedd.

(Bydd y swydd yn cynnwys gwaith achlysurol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau a chaniateir amser yn rhydd yn gyfnewid am hyn).

Yn atebol i:                    Rheolwr Swyddfa a Bwrdd Cyfarwyddwyr Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen

Canolfan Weithio     Swyddfa Llandysul, gall fod cyfle i weithio o ganolfannau eraill 

Trwydded Yrru:          Trwydded lawn gyda hawl D1 yn hanfodol

Cymraeg:                     Dymunol

Teithio:                        Mynediad i gludiant yn hanfodol. Ad-delir treuliau teithio ar gyfer dyletswyddau a gymeradwywyd.

Gwyliau blynyddol:    25 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â gwyliau cyhoeddus statudol

Cyfnod prawf:   Tri mis

Nod:      Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth cludiant cymunedol penodedig i grwpiau cymunedol yn Siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion a darparu cymorth i weithredwyr cludiant cymunedol i ddatblygu eu gwasanaethau cludiant grwpiau eu hunain o fewn yr ardaloedd hynny.

  

Rolau & Chyfrifoldebau:

  • Hyrwyddo a datblygu nodau ac amcanion Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen trwy ymestyn a datblygu cyfleoedd teithio newydd yn Siroedd Caerfyrddin a Cheredigion, gan helpu i leihau ynysu cymdeithasol.
  • Rheoli holl agweddau o ddydd i ddydd y prosiect gan gynnwys gwirfoddolwyr, recriwtio aelodau newydd, archebion y bws mini a goruchwylio cynnal a chadw y cerbydau.
  • Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo a marchnata gwasanaethau’r prosiect.
  • Recriwtio gyrwyr gwirfoddol; trefnu a chyflwyno MIDAS (Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini) ac unrhyw hyfforddiant perthnasol arall.
  • Adnabod cyfleoedd cyllid i ddatblygu a rheoli ymhellach gynaladwyedd hir dymor y prosiect.
  • Sicrhau bod y prosiect yn cwrdd ag allbynnau, deilliannau a dangosyddion CSCDS (Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio) a nodir yn y cais am gyllid.
  • Datblygu gwasanaethau Cludiant Cymunedol grwpiau gan ei wneud yn hygyrch i ystod ehangach o sefydliadau cymunedol ac anabledd.
  • Integreiddio’r prosiect gyda chludiant cyhoeddus presennol, pryd bynnag mae hynny’n bosibl.
  • Trefnu cyflwyniadau a sgyrsiau ymwybyddiaeth i sicrhau bod y bysiau yn cael eu defnyddio gan bob sector berthnasol o’r gymuned.
  • Monitro a gwerthuso’r prosiect a darparu adroddiadau cynnydd i’r Bwrdd a’r sawl sy’n ariannu.
  • Darparu cymorth datblygu i weithredwyr cludiant cymunedol eraill i ddatblygu eu gwasanaethau cludiant grwpiau.
  • Trefnu Fforymau i randdeiliaid i fonitro’r prosiect.
  • Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.

 

DATGANIAD HYBLYGRWYDD

Mae cynnwys y Disgrifiad Swydd hwn yn cynrychioli amlinelliad o’r swydd yn unig ac felly nid yw’n gatalog manwl o’r dyletswyddau a chyfrifoldebau. Bwriedir y Disgrifiad Swydd felly i fod yn hyblyg ac mae’n atebol i’w adolygu a’i ddiwygio yn wyneb newid mewn amgylchiadau, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r deilad swydd.Gellir ychwanegu tasgau eraill yn ôl disgresiwn y Bwrdd Cyfarwyddwyr.

 

POLISIAU A GWEITHDREFNAU

Disgwylir i’r gweithiwr ddarparu gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a disgwylir iddo/iddi weithio o fewn polisiau a gweithdrefnau’r sefydliad.

Contact:
Rod Bowen (Development Officer)

Dolen Teifi
Old Post Office
New Road
Llandysul
Ceredigion
SA444QJ

Office :- 01559362403

www.dolenteifi.org.uk
rod@dolenteifi.org.uk

Share