
Strategaeth Ddigidol ddrafft Cymru
Mae Llywodraeth Cymru am i bobl dderbyn gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithiol a hwylus gan sbarduno yr un pryd arloesedd yn ein heconomi a sicrhau canlyniadau i genedlaethau’r dyfodol.
Rydym wedi bod wrthi’n datblygu Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru sy’n esbonio sut y byddwn yn cynnal y momentwm hwn i newid diwylliannau, gwella sgiliau a diogelu swyddi.
Mae Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn awyddus i fynd ati i ddatblygu Strategaeth Ddigidol mewn ffordd ystwyth a chynhwysol. Dyna pam rydym ni’n rhyddhau’r strategaeth ddrafft trwy gyfres o flogiau: https://digidoladata.blog.llyw.cymru/
Yn gefn i’r Strategaeth a’i Gweledigaeth y mae chwe chenhadaeth, a restrir isod. Ar gyfer pob cenhadaeth, rydym yn nodi’r canlyniadau rydym am eu gweld a’r camau y byddwn yn eu cymryd. Cyhoeddir Cynllun Cyflawni ar wahân i ategu’r Strategaeth.
- Gwasanaethau Digidol: ailddylunio a chynnal gwasanaethau yn ôl set newydd o safonau digidol a data cyffredin fel eu bod yn syml, diogel a chyfleus ac yn gwella’r berthynas rhwng y dinesydd, busnesau a llywodraeth.
- Yr Economi Ddigidol: gwella ansawdd bywyd, cynaliadwyedd a thwf economaidd ledled Cymru, gan roi lle canolog i’r digidol yn yr adferiad ar ôl COVID ac wrth addasu i’r cyd-destun ar ôl yr UE.
- Sgiliau Digidol: creu gweithlu crefftus a chymwys mewn meysydd digidol.
- Cynhwysiant Digidol: darparu gwasanaethau digidol yn deg a chyfartal.
- Cysylltedd Digidol: seilwaith cyflym a dibynadwy i gefnogi gwasanaethau.
- Data a Chydweithredu: gweithio gyda’n gilydd a defnyddio a rhannu data, gwybodaeth ac adnoddau mewn ffordd sy’n gyson â darparu gwasanaethau da.
Rydyn yn awyddus i glywed gan y drydydd sector ar beth mae hyn yn ei feddwl i chi fel defnyddwyr gwasanaethau, fel darparwyr gwasanaethau ac ar gyfer sgiliau a gallu’r sector. Fyddech cystal â rhannu’r ddolen â’r blogiau ar draws eich rhwydweithiau ac annog eich cysylltiadau a’ch rhanddeiliaid i fynegi barn am Strategaeth Ddigidol ddrafft Cymru.
Gall pobl ddweud eu dweud trwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu gynnig sylw ar y blogiau.
Er bod gan Lywodraeth Cymru ran i’w chwarae fel arweinydd o ran rhoi’r Strategaeth Ddigidol ar waith, byddai’n amhosibl gwneud hynny heb gydweithrediad pob sector yng Nghymru. Rydym felly am annog pawb i gymryd rhan.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.