
Cyd-bwyllgor Archwilio Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys
Aelodau Annibynnol:-
Cyd-bwyllgor Archwilio Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys
Gydag ymroddiad angerddol tuag at sicrhau’r gwasanaeth plismona gorau posibl ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys, mae Cyd-bwyllgor Archwilio’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl yn rhan integrol o’r trefniadau llywodraethu sy’n cynnal cyflwyno darpariaeth gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
Rydym yn chwilio am dri unigolyn brwdfrydig a chanolbwyntiedig i eistedd fel aelodau annibynnol o Gyd-bwyllgor Archwilio’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r Prif Gwnstabl.
Bydd y Pwyllgor Archwilio’n adolygu ac yn craffu ar faterion y ddau sefydliad. Byddant yn edrych ar faterion megis rheoli risg, rheoli mewnol a llywodraethu corfforaethol, yn ogystal â goruchwylio trefniadau archwilio ac adolygu datganiadau ariannol.
Os oes gennych chi’r sgiliau a’r profiad, yn arbennig o ran rheoli perfformiad, llywodraethu neu reoli ariannol, ac eisiau’r cyfle i gefnogi a dylanwadu ar wasanaethau plismona lleol, yna rydym eisiau clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Carys Morgans, Pennaeth Staff
Ffôn: 01267 226440; neu e-bost carys.morgans.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk
I lawrlwytho pecyn cais, ewch i www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/neu www.dyfed-powys.police.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Tachwedd 11, 2016
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.