
Gwersyll Cymunedol Digidol Prosiect Eden Mawrth 2021
Bydd y Gwersyll Cymunedol Rhithwir nesaf #CommunityCamp yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2021 ac mae ar agor ar gyfer ceisiadau nawr.
Mae Cymunedau Prosiect Eden yn cynnal Gwersyll Cymunedol Digidol AM DDIM – profiad dysgu trochi sy’n cynnig cymysgedd o weithgareddau ymarferol, sesiynau gweithdy a chyfleoedd rhwydweithio i bobl o bob rhan o’r DU. Mae wedi’i gynllunio i fod yn addas i unrhyw un sydd, neu sydd eisiau gwneud mwy i gefnogi eu cymuned.
Mae deg lle AM DDIM i bobl sydd eisiau datblygu syniadau, gweithgareddau neu brosiectau mewn cymdogaethau a chymunedau unrhyw le yng Nghymru.
Bydd y Gwersyll Cymunedol Rhithwir yn para pum wythnos a bydd yn cynnwys dwy sesiwn yr wythnos ynghyd ag ychydig o weithgareddau ychwanegol / all-lein i chi eu gwneud yn eich amser eich hun yn ystod yr wythnos. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn gwobr ‘Arweinyddiaeth Gymunedol Greadigol’ ar y diwedd.
Am ragor o wybodaeth, ac i wneud cais ewch i: https://www.edenprojectcommunities.com/cy/gwersyll-cymunedol-digidol
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.