
Eiriol – Grwpiau Darllen Gydag Eraill
Ydych chi’n hoffi cwmni, sgwrs a chwpaned, darllen neu cael rhywun i ddarllen i chi? Os ydych …
Pam nag ymunwch chi ag un o’n grwpiau darllen, sy’n groesawgar ac yn rhad ac am ddim? Byddwn yn cwrdd bob wythnos dros gyfnod o chwech wythnos, ac yn darllen a trafod beth rydyn ni wedi’i ddarllen am am ryw 40 munud i awr bob tro. Mae croeso i chi eistedd, darllen (neu dim ond gwrando os yw’n well gydach chi), a siarad am yr hyn rydyn ni wedi’i ddarllen. Bydd lluniaeth ar gael.
Mae rhai sydd wedi bod o’r blaen o’r farn fod darllen gydag eraill yn helpu gyda:
- Lleihau unigrwydd
- Cynyddu hunan-hyder
- Cynyddu geirfa a hunan-fynegiant
- Gwella hunan-barch
- Gwella sgiliau cymdeithasol
- Gwella hunan-ddealltwriaeth
- Lledaenu gorwelion
Bydd y cyfarfodydd nesaf yn dechrau dydd Mecher 13eg o Fehefin yn:
Canolfan Gymunedol Cydweli o 10 – 11.30 y.b. neu Canolfan Hamdden Trimsaran 1 – 2.30 y.p.
Hyn a hyn o lefydd fydd ar gael, felly os ydych chi am ddod, ffoniwch Eiriol ar 01267 231122; neu e-bost eiriol@eiriol.org.uk
Rydyn yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn un o’n cyfarfodydd.
Pam darllen gydag eraill? Beth yw’r manteision?
Yn ogystal, bydd dau gyfarfod “Cyfeillion Dementia” yn cael eu cynnal yn yr un lleoliadau a’r un amserau ar y 4ydd o Orffennaf.
Os oes gyda chi ddiddordeb, cysylltwch â
Sharon Slattery-Godwin
Eiriolaeth Iechyd Meddwl “Eiriol”
Llawr 1af, 59 Stryd y Brenin
Caerfyrddin
SA31 1BA
01267 231122
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.