Pwyntiau Gwefru Ceir Trydanol mewn Clybiau Chwaraeon a Mannau Cymunedol

Pwyntiau Gwefru Ceir Trydanol mewn Clybiau Chwaraeon a Mannau Cymunedol

Digwyddiad Zoom

Dydd Mercher, 14 Hydref, 2020 6 – 7pm

Mae’r digwyddiad yma yn berthnasol i gynrychiolwyr o glybiau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol sydd â maes parcio.

Mae’r newid o geir petrol a disel i rai trydanol yn digwydd yn gyflym ac mae angen pwyntiau gwefru hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw rhan fwyaf o stoc dai Cymru yn addas ar gyfer pwyntiau cartref oherwydd diffyg parcio oddi ar y stryd. Mae trefi a dinasoedd yn dechrau paratoi hefyd, ond ni fydd llawer o gymunedau’r cymoedd yn barod ar gyfer y trawsnewid yma.

Yn aml mae gan glybiau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol meysydd parcio sydd ddim yn cael eu defnyddio i’w llawn defnydd, felly os ydych eisiau darganfod mwy o wybodaeth am osod pwyntiau gwefru er budd eich aelodau, eich cymuned ac i gynhyrchu incwm i gefnogi eich adeilad- gan gyfri’r potensial am glybiau ceir cymunedol a beiciau trydanol- yna ymunwch a ni:

https://tocyn.cymru/en/event/0db9ef96-f4b5-41f8-bb12-18096e7667d4

Share