
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE -gwybodaeth a chyngor
Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth a chynghori gyda Lee Waters AC yng Nghanolfan Cymunedol Paddock, Stryd Paddock, Llanelli SA15 2RU, rhwng 5.00pm a 6.30pm ar ddydd Gwener, 14 Chwefror 2020.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun preswylio’n sefydlog, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0300 3309 059.
Os hoffech ddechrau’r broses ceisio gyda ni, bydd angen i chi ddod â’r dogfennau/eitemau canlynol:
Prawf Adnabod (pasbort dilys neu gerdyn adnabod cenedlaethol); Ffôn Symudol;
- Cyfeiriad ebost (yn cynnwys manylion mewngofnodi);
- Rhif Yswiriant Gwladol;
- Efallai bydd angen prawf eich bod yn preswylio a all gynnwys: bil treth gyngor, datganiadau bank blynyddol, cytundeb tenantiaeth a datganiad o’r cyfrif rent;
- Manylion unrhyw euogfarnau troseddol;
- Manylion holl incwm y cartref e.e. cyflog, budd-daliadau, pensiynau;
- Manylion aelodau arall o’r teulu sy’n byw yn y DU a phrawf o’u perthynas â chi e.e. tystysgrifau geni a phriodas;
- Unrhyw ohebiaeth dych chi am gyngor yn eu cylch.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.