
Sesiynau Gwybodaeth Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – staff rheng flaen
Dyma wahoddiad i chi i gyfres o sesiynau Zoom ar-lein, a gynhelir gan EYST mewn partneriaeth â phum partner darparu gwasanaeth; TGP Cymru, MIND Casnewydd, Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law.
Mae’r sesiynau yma yn agored i staff rheng flaen sy’n wynebu’r cyhoedd sydd â diddordeb proffesiynol mewn cefnogi dinasyddion yr UE. Maent wedi eu hanelu at hysbysbu’r rhai sy’n mynychu am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Didinasyddion yr UE, materion sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn ogystal â llwybrau at gefnogaeth wedi’i deilwra a fydd yn eu galluogi i gyfeirio ac atgyfeirio cleientiaid i’r gwasanaeth briodol yn ôl eu hanghenion.
Fel rheol, bydd angen i ddinasyddion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu’r Swisdir, a’u teuluoedd sydd am aros yn y DU tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020 wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i ddinasyddion yr UE Llywodraeth y DU.
Gall dinasyddion yr UE/AAE/Swisdir a’u teuluoedd sydd wedi preswylio’n barhaus yn DU am bum mlynedd ar gyfer unrhyw gyfnod hyd at ddiwedd 31 Rhagfyr 2020 wneud cais am statws sefydlog. Mae derbyn statws sefydlog yn sicrhau hawliau i fyw, gweithio, astudio a chael budd-daliadau a/neu fynediad i wasanaethau yn y DU. Bydd y rheiny sydd heb breswylio’n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws cyn-sefydlog. Dim ond prawf o breswylio am un diwrnod yn y DU yn y 6 mis diwethaf sydd ei angen ar gyfer statws cyn-sefydlog.
Bydd y sesiynau gwybodaeth yn dilyn y strwythur canlynol: cyflwyniad o’r Cynllun EUSS, a fydd yn cynnwys cyflwyniad gan pob partner i’w sefydliadau a manylu ar y gwasanaethau sydd ar gael, ac yn olaf, cyfle i drafod unrhyw faterion penodol mewn sesiwn holi ac ateb.
5 munud Croeso & Chyflwyniadau
30 munud Cyflwyniad ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i ddinasyddion yr UE: ‘Beth yw’r Cynllun a sut i wneud cais’
20 munud Sesiwn Holi ac Ateb Agored
5 munud Diwedd
Bydd gennych yr opsiwn i gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiad. Dewiswch amser a dyddiad sy’n gyfleus i chi. Gweler dyddiadau a’r dolenni cofrestru isod:
Mercher, 9 Rhagfyr, 2:00 PM-3:00 pm Cliciwch yma i gofrestru
Mercher, 16 Rhagfyr, 2:00 PM-3:00 pm Cliciwch yma i gofrestru
Cyflwyniad i’n partneriaid:
Cyngor ar Bopeth Cymru: Mae CAB yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor i gynorthwyo unigolion gyda cheisiadau syml EUSS. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig gwasanaeth arbenigol i alluogi unigolion i ddeall eu hawliau yn y gweithle, ac yn gallu herio cam-fanteisio, gan gynnwys cyfryngu a chefnogaeth tribiwnlys. I gael cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim Rhif ffôn: 0300 3309 059 neu e-bost: WGProject@eu.citizensadvice.org.uk
Settled: Elusen newydd yw Settled, a sefydlwyd gan ddinasyddion yr UE Eu pwrpas yw arwain, hysbysu, a chynorthwyo dinasyddion UE bregus ac anodd ei chyrraedd gyda’u ceisiadau EUSS, er mwyn eu helpu i gadw eu hawl i fyw a gweithio o fewn y DU, a sicrhau eu hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit. Gall cynghorwyr cynnig cefnogaeth o bell mewn nifer o ieithoedd dros y ffôn, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, – grwpiau fforwm Facebook, grwpiau WhatsApp, a rhannu gwybodaeth am yr EUSS trwy Twitter a Facebook. Mae settled yn cynnal gweminarau gyda is-genhadon UE a chyfreithwyr mewnfudo ar Facebook a Zoom. E-bost: info@settled.org.uk
TGP Cymru: Mae TGP Cymru yn darparu cyngor ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, cefnogaeth cais llawn ac yn gysylltiedig â dinasyddion Roma i amddiffyn eu hawl i aros yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r gefnogaeth hon yn cael ei chynnig am ddim, mewn ieithoedd cartrefol ledled Cymru gyfan. Yn ogystal â chyngor EUSS, maent yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, gan weithio’n agos gyda’r gymuned Roma. Rhif ffôn: 0808 802 0025 neu e-bost: travellingahead@tgpcymru.org.uk
Newfields Law: Maent yn gwmni cyfreithiol mewnfudo arbenigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd sydd â chynghorwyr cyfreithiol cymwysedig sy’n gallu helpu gyda phob agwedd o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae Newfields yn darparu cymorth i wneud cais i unigolion gydag achosion yn amrywio o syml i’r rhai mwyaf cymhleth. Rhif ffȏn: 02921690049 neu e-bost: info@newfieldslaw.com
Mind Casnewydd: Mae Mind Casnewydd yn darparu gwasanaeth cyngor a chefnogaeth ledled Cymru (mewn cydweithrediad â swyddfeydd Mind eraill) ac yn cefnogi oedolion bregus sydd â phroblemau iechyd meddwl, dioddefwyr cam-drin domestig a’r henoed i wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. E-bost: euenquiries@newportmind.org
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag aelodau ein tîm drwy e-bostio:eurights@eyst.org.uk
Gobeithio y gwelwn ni chi yno.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.