Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Tachwedd 25, 2021 @ 9:30am

Cost: Am ddim

Lleoliad: Parc y Scarlets

Gall Gofalwyr ymuno â ni ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau ym Mharc y Scarlets ar ddydd Iau 25 Tachwedd, rhwng 9.30yb – 2.45yh.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i Ofalwyr gwrdd â Gofalwyr eraill ar gyfer diwrnod ymlaciedig ac anffurfiol.

  • Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar bynciau y mae Gofalwyr yn gofyn amdanynt yn aml, gan gynnwys: Trosolwg o ‘Hawliau Gofalwyr’ gan Gofalwyr Cymru
  • Diweddariad ar Wasanaethau Cymorth i Ofalwyr yn lleol, gan gynnwys gwasanaethau dydd a gofal seibiant, a Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru, gan Reolwr Gofalwyr Arweiniol o Gyngor Sir Gâr
  • Materion Ariannol – gan gynnwys Uchafu Incwm, Lwfans Gofalwyr ac Atwrneiaeth Arhosol
  • Neu, beth am gymryd peth amser i ymlacio mewn sesiwn Myfyrdod ac Ymwybyddiaeth Ofalgar, neu fod yn greadigol mewn gweithdy Celf a Chrefft? Neu ymuno mewn gweithdy lles, sy’n archwilio rhai o’r emosiynau, sialensiau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau a ddaw yn sgil bod yn Ofalwr, a dysgu rhai cynghorion ar sut i feithrin cydnerthedd ac aros yn bositif?

Byddwn yn clywed hefyd gan rai Gofalwyr, a fydd yn rhannu eu storiâu gyda ni am eu siwrnai bersonol fel Gofalwyr di-dâl ac, wrth gwrs, heb anghofio’r cinio blasus a’r raffl am ddim yn lleoliad hyfryd Parc y Scarlets.

 

Os am fwcio lle, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar 0300 0200 002 neu anfonwch e-bost atom ar info@ctcww.org.uk

Lawrlwythwch y poster