Ymgynghoriad Cydraddoldeb

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dweud eich dweud ar sicrhau canlyniadau gwell i bobl Sir Gaerfyrddin.

 

Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net

 

Mae Cyngor Sir Gâr yn gofyn am eich barn ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.

 

Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Phowys wedi ymuno â’i gilydd ar yr ymgynghoriad hwn i sicrhau bod eu gweithredoedd yn deg i bob cymuned ac y gall pawb ddisgwyl cael eu trin yn deg a chyda pharch.

 

Anogir yr holl drigolion, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol i gymryd rhan.

 

Bydd y wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarperir yn llywio camau gweithredu i sicrhau canlyniadau gwell ac i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar anghydraddoldebau yn y sir.

 

Mae’r cyfnod ymgynghori rhwng 21/04/2023 ~ 10:28 i 31/07/2023 ~ 17:00

 

Bydd yr Amcanion Cydraddoldeb newydd yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.

Y ddolen eto i ddweud eich dweud –

 

Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y Sector Cyhoeddus a elwir yn ddyletswydd gyffredinol neu ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. I grynhoi, mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir dan y Ddeddf;
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Gâr:

 

Strategic Equality Plan (gov.wales)