Gwasanaethau cynghori ar nawdd CAVS
Mae staff nawdd a datblygu CAVS yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ddod o hyd i ffynonellau nawdd sy’n addas ar gyfer gweithgareddau eich grwp.
Trwy ddefnyddio adnoddau helaeth Grantfinder, a chronfeydd data ar-lein, fe allwn chwilio trwy amrywiaeth o ymddiriedolaethau elusennol a rhai sy’n cynnig grantiau. Yn ychwanegol at hyn, mae gan y staff wybodaeth ddiweddar ynglyn â grantiau’r llywodraeth yn lleol ac yn genedlaethol, a chyfeirlyfrau a chanllawiau ar gyfer ffynonellau nawdd eraill.
Wedi dod o hyd i ffynonellau addas o nawdd, mae’r staff yn gallu eich helpu chi drwy’r broses o lunio cais – cael gafael ar ffurflenni cais a’u cwblhau, a lle mae angen, dod i gysylltiad â’r noddwyr.
Cysylltwch â’r adran grantiau ar ffôn 01267 245555, ebost funding@cavs.org.uk
Ynglyn â Grantfinder
Ers 1985, Grantfinder yw’r ffynhonnell arweiniol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gwybodaeth gywir a chynhwysfawr ar yr amrywiaeth lawn o ddarpariaeth cymorth ariannol yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys grantiau, cymhorthdaliadau, benthyciadau, nawdd mentro a mentrau eraill, sydd ar gael i bob math o fusnesau, o’r masnachwr unigol i’r cwmni amlwladol; i grwpiau gwirfoddol a chymunedol; i elusennau a changhennau elusennol; i bob agwedd a phob lefel o’r sector cyhoeddus.


