Cyllid Cynaliadwy Cymru
Adnodd sy’n cynnig gwybodaeth ymarferol i fudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru ar sut i ddatblygu dull cynaliadwy o gyllido.
Mae’r wefan yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i sefydliadau sy’n dymuno datblygu ymagwedd entrepreneuraidd i nawdd er mwyn cyflawni cynaliadwyedd ariannol hir dymor drwy amrywiaethu eu hincwm.
Mae’n cynnig arweiniad ar yr amrywiol ffynonellau incwm sydd ar gael i’r sector a’r ymagweddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn mabwysiadu, rheoli a chynnal y ffynonellau hyn.
Mae hefyd yn cynnig astudiaethau achos o fudiadau sydd eisoes yn gweithio tuag at gynaliadwyedd, ffynonellau cymorth pellach, y newyddion rheolaidd diweddaraf ar Gyllid Cynaliadwy Cymru, a manylion hyfforddiant a digwyddiadau perthnasol.
Caiff y wefan ei diweddaru yn gyson a rhoddir cyfle i fudiadau ymuno â rhestr e-bost i dderbyn cylchlythyr misol am ddim.
I gael gwybod mwy am Gyllid Cynaliadwy Cymru, gallwch 0800 2888 329 neu e-bost sfc@wcva.org.uk