
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Daw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd i rym ar 25 Mai 2018.
Nod GDPR yw diogelu unigolion yn fwy, gan olygu mwy o rwymedigaethau preifatrwydd ar fudiadau. Ni fydd penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar y broses o gyflwyno GDPR. Mae hi’n amser dechrau cynllunio er mwyn sicrhau bod eich mudiad yn cydymffurfio.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi llunio canllaw defnyddiol i’ch paratoi, sef 12 cam i’w cymryd nawr.
Ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, mae CGGC yn cynnal Gweminarau yn rhad ac am ddim. Dyma ddyddiadau’r sesiynau sydd ar y gweill:
23 Hydref 2017 Mynediad i Wrthrychau
20 Tachwedd 2017 Diogelu Data i Ymddiriedolwyr
11 Rhagfyr 2017 Preifatrwydd drwy Ddylunio
23 Ionawr 2018 Rhannu Data
6 Chwefror 2018 Teledu Cylch Cyfyng
Ewch i’n tudalen#DesktopData – eich paratoi at y GDPR ar wefan CGGC i ddysgu mwy am y Gweminarau sydd ar y gweill, gan gynnwys recordiadau o sesiynau blaenorol.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.