
Cyllid ar gyfer Prosiectau Cymunedol Tyfu’n Wyllt
Ar agor ar gyfer ceisiadau nawr!
Oes gennych chi syniad cyffrous ar gyfer prosiect sy’n dod â phobl at ei gilydd trwy weithgareddau sy’n eu cysylltu gyda’u cymuned ac sy’n dathlu blodau gwyllt, planhigion a ffyngau brodorol y DU?
Os oes, darllenwch ymlaen …
Am beth ydyn ni’n chwilio?
Bydd Tyfu’n Wyllt yn rhoi ariannu o £2,000 neu £4,000 i grwpiau a phrosiectau:
- Sy’n sefyll allan – meddyliwch am rywbeth creadigol neu, yn well fyth, rhywbeth sydd heb ei wneud o’r blaen!
- Sy’n rhoi ffocws ar flodau gwyllt, planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y rhywogaethau hyn ar gyfer yr amgylchedd, ac ar gyfer ansawdd bywyd.
- Fydd yn ymgysylltu gydag un neu fwy o’r grwpiau hyn:
- Pobl ifanc 12-18 oed
- Myfyrwyr a phobl ifanc 18-25 oed
- Pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol
- Pobl sy’n profi caledi a diffyg mynediad i wasanaethau
- Oedolion sy’n ymwneud llai â’u cymuned a gweithgareddau amgylcheddol
- Fydd yn annog ymgysylltiad cymunedol ar raddfa fawr, yn ddelfrydol yn gannoedd o bobl!
- Fydd yn trosglwyddo’r prosiect mewn llecyn neu leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd h.y. sydd ddim yn ardal dan reolaeth neu gyfyngiad
Mae hynny’n swnio’n debyg i fy ngrŵp neu fy mudiad i, ond ydyn ni’n gymwys?
Rydych yn gymwys i ymgeisio os ydych yn:
- Grŵp gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol, sydd â chyfansoddiad, sy’n ddielw neu’n elusennol. Yn arbennig:
- Grwpiau ieuenctid.
- Ysgolion uwchradd
- Cynghorau plwyf, tref a chymuned.
- Awdurdodau iechyd, byrddau iechyd a charchardai.
- Grŵp sy’n gallu trosglwyddo a bod yn gyfrifol yn ariannol am brosiect cymunedol.
- Grŵp sydd â chyfrif banc yn enw’r grŵp ac all ddangos tystiolaeth o hyn i Tyfu’n Wyllt.
Yn anffodus, nid yw’r grwpiau canlynol yn gymwys i ymgeisio:
- Awdurdodau lleol
- Ysgolion cynradd
- Sefydliadau gyda ffocws masnachol a ble y gallai ariannu Tyfu’n Wyllt chwarae rhan uniongyrchol mewn gweithgareddau masnachol.
- Grwpiau a arianwyd eisoes ganTyfu’n Wyllt rhwng 2014-17
Ond fe allech ymuno i gefnogi grŵp sy’n gymwys i drosglwyddo’r prosiect!
Felly, beth fydd yn digwydd nesaf?
Lawrlwythwch y ddogfen ganllawiau am bopeth y bydd angen ichi ei wybod am y broses o ymgeisio am ariannu prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt. Cofiwch ddarllen trwyddi i gyd, gan ei bod yn bosibl y bydd elfennau ychwanegol y bydd agen ichi eu hystyried
- Os yw eich grŵp neu fudiad yn gymwys, bydd angen ichi gysylltu gyda’ch Rheolwr Ymgysylltu Tyfu’n Wyllt lleol i drafod eich syniad ac i ofyn am ffurflen gais ar-lein. Gweler tudalen 5 y ddogfen ganllaw am fanylion cyswllt.
- Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ar 15 Ionawr 2018.
- Yna, bydd Tyfu’n Wyllt yn asesu pob cais, gan greu rhestr fer gaiff ei hystyried gan banel o arbenigwyr ddechrau 2018. Cewch wybod os nad yw eich grŵp neu fudiad ar y rhestr fer erbyn 27 Chwefror 2018.
- Bydd pob ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael eu hysbysu os ydynt wedi ennill ariannu erbyn 23 Chwefror 2018.
- Bydd prosiectau’n cychwyn ym mis Mawrth 2018 a bydd gofyn iddynt orffen erbyn mis Hydref 2018. Unwaith i’ch prosiect gychwyn fe ddaw eich Rheolwr Ymgysylltu Tyfu’n Wyllt lleol i ymweld.
Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan: https://www.growwilduk.com/cy/ariannu-prosiectau-cymunedol-2018-0
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.