
Hafan Cymru – Pennaeth Gwasanaethau Pobl
YDYCH CHI EISIAU GWEITHIO I GORFF ARLOESOL, DEINAMIG A BLAENGAR?
YDYCH CHI EISIAU GWNEUD GWAHANIAETH YM MYWYDAU POBL?
DEWCH I WEITHIO I HAFAN CYMRU YN SWYDD: PENNAETH GWASANAETHAU POBL
Mae gyda ni gyfle cyffrous ar gyfer Pennaeth Gwasanaethau Pobl sy’n strategol ac yn ysbrydoli. Byddai’r ymgeisydd delfrydol yn uniaethu’n naturiol â gwerthoedd Hafan Cymru ac yn gallu cyflenwi gwasanaethau cymorth effeithiol, rhagweithiol ac o safon uchel. Bydd ymgeiswyr yn weithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol gyda’r gallu i weithredu’n effeithiol ar y lefel uchaf, gan sicrhau bod gwasanaeth adnoddau dynol o safon uchel yn cael ei ddarparu, gyda gwerth ychwanegol. Byddan nhw’n cefnogi cynllun strategol y corff, gyda thwf a datblygiad parhaus. Mae angen profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth/arweiniad Adnoddau Dynol ac o hyfforddi rheolwyr i wneud penderfyniadau effeithiol ac ystyrlon ynglŷn â materion pobl cymhleth. Bydd y swydd yn arwain mewn tri maes: Gwasanaethau Cwsmeriaid, Ansawdd a Chydymffurfio ac Adnoddau Dynol. O ran y gwaith Adnoddau Dynol, bydd disgwyl i chi weithredu o safbwynt gweithredol a strategol, gan gefnogi amcanion y busnes a gwreiddio gwerthoedd ac ymddygiad Hafan Cymru yn ddyfnach fyth.
Er mwyn ceisio am y swydd hon, anfonwch eich CV a llythyr gydaf ef i’r Adran Adnoddau Dynol, Hafan Cymru, Ffordd Steffan, Pensarn, Caerfyrddin SA31 2BG
Neu trwy e-bost: Recruitment.administrationteam@hafancymru.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:12 hanner dydd, 7 Awst 2018
Dyddiad cyfweld: 20 Awst 2018,
Cyfweliad a Ganolfan asesu, Pensarn, Caerfyrddyn
Cyflog: hyd at £50,000 per annum
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.