
Dweud eich dweud: Ymgynghoriad Partneriaeth Cydraddoldeb Corff Cyhoeddus Cymru
Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Corff Cyhoeddus Cymru yn ymgynghori ar eu hamcanion a’u Camau Gweithredu Cydraddoldeb ar gyfer 2020 i 2024.
Mae’r Cyrff Cyhoeddus yn cynnwys: Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Comisiynydd y Gymraeg (CyG), Gyrfa Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Chwaraeon Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Felindre.
Mae dogfen yr ymgynghoriad ar gael yma
Hefyd mae gennym ni arolwg ar-lein yma
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ddydd Sul 26ain Ionawr 2020.
Bydd ymatebion cynharach yn ein helpu ni i gynllunio’r digwyddiadau ymgysylltu.
Canolbarth Cymru – 26 Tachwedd 2019
Gorllewin Cymru – 28 Tachwedd 2019
Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu ni i gytuno ar ein Hamcanion Cydraddoldeb a’r camau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith i gyflawni pob amcan.
Mae’r ymgynghoriad hwn ar gael mewn print mawr ac fel dogfen Word yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Diverse Cymru.
Cysylltwch â ni os ydych eisiau’r ymgynghoriad hwn mewn fformat gwahanol (er enghraifft Braille, ar bapur lliw gwahanol, neu fel ffeil sain), gael copi wedi’i argraffu o’r ddogfen drwy’r post neu ar e-bost.
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy wneud y canlynol, llenwi’r arolwg ar-lein neu anfon eich ymateb i Diverse Cymru: Research@diverse.cymru / Diverse Cymru, 3ydd Llawr, Tŷ Alexandra,307-315 Heol Ddwyreiniol Y Bontfaen, Caerdydd, CF5 1JD.
Os hoffech gael help gydag ymateb, cysylltwch â ni ar 029 2036 888 a gofyn am Shelagh Maher neu Georgia Marks neu anfon e-bost i research@diverse.cymru.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.