
Dweud eich dweud ar adnoddau cydraddoldeb ar gyfer y trydydd sector
Beth mae’r prosiect amdano?
Cafodd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a Diverse Cymru eu comisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i lunio cyfres o adnoddau ar ddyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector. Mae’r adnoddau hyn yn ymwneud â helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddeall a defnyddio cyfraith cydraddoldeb yng Nghymru.
Beth yw’r adnoddau cydraddoldeb?
Byddwn yn llunio gwybodaeth, llythyrau, hysbysiadau cyflym a phosteri gyda’r diben o helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddeall a defnyddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) a’r dyletswyddau penodol yng Nghymru i herio gwahaniaethu a sbarduno newid. Bydd y pynciau byddwn yn eu cwmpasu yn cynnwys:
- Gosod, cyhoeddi ac adolygu nodau cydraddoldeb
- Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol
- Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb
- Ymgysylltu â phobl o grwpiau gwarchodedig
- Hyfforddiant i staff sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Cysylltiadau rhwng cyfraith/dyletswyddau cydraddoldeb a Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Pwy ddylai ymwneud â hwn?
Rydym am sicrhau bod yr adnoddau a luniwn yn gweithio’n dda i bob sefydliad y trydydd sector yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys elusennau cenedlaethol, elusennau lleol unrhyw le yng Nghymru, mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydfuddiannol a chwmnïau cydweithredol, grwpiau hunan gymorth a grwpiau cymunedol.
Anelir yr adnoddau at wella eich gwybodaeth o’r dyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru a’ch darparu ag arfau y gallwch eu defnyddio i herio sefydliadau sector cyhoeddus a gwella cydraddoldeb yng Nghymru.
Rydym am glywed oddi ar bob sefydliad y trydydd sector, ac nid dim ond gan grwpiau sydd yn gweithio ar faterion cydraddoldeb neu gymunedau arbennig. Mae’n bwysig y gall sefydliadau’r trydydd sector nad ydynt yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ddefnyddio’r adnoddau hyn.
Ymwnewch ag ef mewn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn:
Meddyliau cyntaf Cyn i ni ddechrau, rydym am eich barn am yr hyn fyddai’n eich helpu i ddeall a defnyddio cyfreithiau a dyletswyddau cydraddoldeb ac adnoddau posib. Terfyn amser: Dydd Llun 26 Chwefror Gallwch roi’ch meddyliau i ni drwy:
- Llenwi’n harolwg ar-lein dwy funud: https://c3sc.polldaddy.com/s/dweud-eich-dweud-ar-adnoddau-cydraddoldeb-ar-gyfer-y-trydydd-sector
- Anfon e-bost yn amlinellu’ch meddyliau i: Steven.H@c3sc.org.uk
- Ffonio C3SC ar (029) 2048 5722 a gofyn am Steven Honeywill
Mynychu un o’n Grwpiau Ffocws
Byddwn yn rhedeg tri grŵp ffocws, y gellir eu mynychu yn rhad ac am ddim. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys cyflwyniad i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru, i sicrhau bod cyfranogwyr yn ymwybodol o’r dyletswyddau mae’r adnoddau’n canolbwyntio arnynt.
Cewch wedyn gyfle i:
- Drafod beth yr ydych am wybod yn ei gylch ynglŷn â’r dyletswyddau cydraddoldeb a sut i’w defnyddio
- Trafod pa lythyrau ac adnoddau fyddai’n ddefnyddiol i chi a sefydliadau eraill y trydydd sector
- Edrych ar y papurau briffio, llythyrau templed, posteri a thaflenni drafft ac adborth ar eu cynnwys a’u harddull
- Gadewch wybod i ni am fathau eraill o adnoddau a fyddai’n ddefnyddiol
Darperir te a choffi ymhob digwyddiad. Mae pob man cyfarfod yn hygyrch ac mae lifftiau a chyfleusterau hygyrch gan loriau cyntaf mannau cyfarfod. Rhowch wybod i ni os oes gofynion mynediad gennych wrth i chi gofrestru neu os hoffech gyfathrebu’n Gymraeg. Rhowch wybod i ni hefyd os yw teithio neu gostau eraill yn rhwystr i chi rhag bod yn bresennol.
Dydd Iau 1 Mawrth 2018 yng Nghaerdydd.
- Cofrestru 9:45 am.
- Grŵp ffocws: 10 am – 1 pm
- Man cyfarfod: Canolfan Ddiwylliant a’r Cyfryngau@Loudoun, Plas Iona, Butetown, Caerdydd, CF10 5HW
Dydd Gwener 2 Mawrth 2018 yng Nghaerfyrddin.
- Cofrestru 9:45 am.
- Grŵp ffocws 10 am – 1 pm
- Man cyfarfod: *Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), The Mount, 18 Heol y Frenhines, Caerfyrddin, SA31 1JT.
Dydd Iau 8 Mawrth ym Mae Colwyn.
- Cofrestru 12:45 pm.
- Grŵp ffocws 1 pm – 4 pm
- Man cyfarfod: Ystafelloedd cyfarfod Station Court, uwchben Siop Goffi Porters, 41-43 Station Road, Bae Colwyn, LL29 8BP.
Adolygu’r adnoddau drafft Os ydych am fwrw golwg ar yr wybodaeth, llythyrau, taflenni a phosteri drafft, ond ni allwch fynychu un o’r grwpiau ffocws, mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn:
- Gallwn anfon y drafftiau mewn e-bost i chi er mwyn cael eich sylwadau arnynt
- Gallwn eu hanfon trwy’r post
- Gallwch ein ffonio i ddarparu adborth i ni
Am ragor o wybodaeth, neu i neilltuo lle ar y grŵp ffocws, cysylltwch C3SC: Ffôn: 029 2048 5722 E-bost: admin@c3sc.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.