
Gwybodaeth am weithdai ac hyfforddiant PQASSO yng Nghymru
Eisiau gwybod mwy am PQASSO neu angen cefnogaeth i ddefnyddio PQASSO? Mae NCVO yn rhedeg rhaglen o weithdai a chyrsiau hyfforddiant yng Nghymru.
Cyflwyniad i PQASSO a Nod Ansawdd PQASSO – gweithdai am ddim
Ydych chi am gryfhau trefniadau llywodraethu, rheoli risg yn well, darparu gwasanaethau gwell i ddefnyddwyr, gwella arferion gweithredu ac arddangos canlyniadau yn well yn eich mudiad trydydd sector? Os felly ymunwch â ni am ddwy awr yn un o’n gweithdai am ddim i gael gwybod mwy am PQASSO.
28 Mehefin – Bae Colwyn
15 Hydref – Caerdydd
Gweithredu PQASSO
Mae’r cwrs hwn yn rhoi canllaw cam wrth gam i weithredu PQASSO yn llwyddiannus. Byddwch yn ennill dealltwriaeth dda o PQASSO a’r broses hunanasesu.
12 & 13 Mehefin – Caerdydd
Sut i baratoi at eich asesiad Nod Ansawdd PQASSO
Bydd y cwrs undydd hwn yn eich helpu i symud o gwblhau proses hunanasesu PQASSO yn eich mudiad i gyflawni Nod Ansawdd PQASSO.
Bydd y cwrs yn rhoi canllaw cam wrth gam i’r 7 cam sydd ym mhroses asesu Nod Ansawdd PQASSO, gan gynnwys:
ymgeisio am asesiad Nod Ansawdd PQASSO
sut i baratoi at asesiad
beth sy’n digwydd yn yr asesiad, gan gynnwys yr adolygiad bwrdd gwaith a’r ymweliad â’r safle, a
beth sy’n digwydd ar ôl cynnal yr asesiad.
20 Medi – Caerdydd
26 Medi – Bae Colwyn
Ewch i wefan NCVO am ragor o wybodaeth ac i gadw lle.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.