
Ymaelodwch gyda CAVS Nawr!
Mae aelodaeth CAVS yn agored i bob grŵp gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithio, neu’n darparu gwasanaethau, yn Sir Gâr.
Dewch yn aelod o CAVS am £20 y flwyddyn.
Dyma fydd manteision gwych yr aelodaeth i’ch mudiad chi:
- Hawliau pleidleisio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CAVS
- Cyfle i fod yn un o ymddiriedolwyr CAVS
- Gostyngiadau ar hurio ystafelloedd cyfarfod
- Gostyngiadau ar wasanaethau llungopïo
- Gostyngiadau ar gyrsiau hyfforddiant CAVS sydd â ffi
- Gostyngiadau ar hurio yr Uned Symudol
- Gostyngiadau ar system PA sylfaenol
- Gostyngiadau ar hurio teclyn PCC
Telerau ac amodau yn berthnasol
I ymaelodi â CAVS
- E-bostiwch admin@cavs.org.uk neu ffoniwch 01267 245555 gan ofyn am ffurflen aelodaeth.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch aelodaeth, mae croeso i chi gysylltu â CAVS drwy e-bostio admin@cavs.org.uk neu ffonio 01267 245555.