
Iechyd Gofalwyr Teuluol
Iechyd Gofalwyr Teuluol
Ydych chi’n gofalu am berthynas sy’n oedolyn (25 oed a hŷn) gydag anabledd dysgu yn eich cartref teuluol?
Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda Mencap Cymru a Chartrefi Cymru, yn dechrau project ymchwil newydd sy’n edrych ar iechyd gofalwyr teuluol.
Rydym ni eisiau gwybod y canlynol:
- Eich profiadau o fod yn ofalwr.
- Eich iechyd a’ch lles.
- Y gefnogaeth a gewch i helpu gyda’ch swyddogaeth gofalu gan ffrindiau a theulu.
- Y gefnogaeth a gewch gan y gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol.
- Eich meddyliau a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Beth mae cymryd rhan yn ei olygu? Gellwch naill ai:
- Lenwi holiaduron ar-lein. Am fwy o wybodaeth, ac/neu i gymryd rhan, ewch https://survey.psychology.bangor.ac.uk/iechydgofalwyr.
- Neu cysylltwch gyda Jillian Grey, manylion isod, i dderbyn rhagor o wybodaeth a/neu gopïau papur o holiaduron.
Faint o amser fydd yn ei gymryd?
Mae’r holiaduron wedi cael eu dewis yn ofalus er mwyn iddynt fod yn hawdd i’w llenwi. Ni ddylai’r rhain gymryd llawer mwy nag 20 munud i gyd i’w llenwi. Am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cysylltwch â:
Jillian Grey Yr Ysgol Seicoleg Adeilad Brigantia, Bangor, Gwynedd, LL57 2AS
Ffôn: 01248 388255 E-bost: j.m.grey@bangor.ac.uk