
Learning Disability Wales – Gadeirydd ar gyfer ein Bwrdd Ymddiriedolwyr
‘Rydym am i Gymru fod y Wlad orau i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio’ ac rydym yn chwilio am Gadeirydd ar gyfer ein Bwrdd Ymddiriedolwyr i’n helpu i gwyflawni hyn.
Byddwch yn rhoi arweiniad cynhwysol i’r Bwrdd ac yn cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol i ddatblygu’r sefydliad.
2 flynedd yw cyfnod y swydd i ddechrau, bydd uchafswm o 2 dymor, a bydd yr ail dymor yn dibynnu ar ailethol. I ddechrau, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’n cadeirydd presennol, gan gymryd yr awenau’n ffurfiol unwaith y bydd eich penodiad wedi cael ei gymeradwyo gan ein haelodau yn ein cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2020.
Nid oes tâl am y rôl ond bydd treuliau allan o boced yn cael eu had-dalu.
Am fanylion pellach a sut i gynnig, gweler ein gwefan.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.