
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu newydd
Mae’r prosiect Engage to Change yn rhedeg ar draws Cymru ar hyn o bryd i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 -25 oed gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gael lleoliadau gwaith cyflogedig yn para
6 – 12 mis.
Cyllidir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, dan arweiniad Anabledd Dysgu Cymru mewn partneriaeth gydag asiantaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth ELITE ac Agoriad, y corff hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i chwarae rôl ganolog mewn cydgysylltu gweithgaredd cyfathrebu allanol y prosiect. Fe fydd gennych sgiliau ysgrifenedig a llafar ardderchog, yn ddymunol yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r gallu i reoli pob ffurf o gyfathrebiadau digidol.
Fe fyddwch yn cael y cyfle i arddangos straeon cyfranogwyr Engage to Change ar draws Cymru drwy amrywiol sianeli.
Gan fod hon yn swydd llawn amser gellid ystyried rhannu swydd. Cyllidir y swydd ar hyn o bryd tan 31 Mai 2021.
Cyflog: Gradd 5 ADC, pwyntiau 17-20 £24,762 i £27,889 (37 awr yr wythnos) a chyfraniad pensiwn cyflogwr o 7.5 %
Lleoliad: Llanisien, Caerdydd
Dyddiad cau: 8 Ionawr 2020
Cyfweliad: 23 Ionawr 2020
Sut i ymgeisio:
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.