
Cystadleuaeth Logo CUSP
Ydych chi’n dda mewn celf a dylunio?
Mae angen logo arnom ni!
Mae PROSIECT CYMORTH SIR GAERFYRDDIN UNEDIG (CUSP)
yn bartneriaeth o sefydliadau trydydd sector, sy’n cydlynu cymorth ar gyfer pobl 18 oed a hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, sydd o bosibl angen cymorth a chefnogaeth i’w galluogi nhw i fyw bywyd iach, hapus ac annibynnol.
Y geiriau allweddol i feddwl amdanynt wrth ddylunio yw,
CYMORTH
PARTNERIAETH
ATAL
ANNIBYNIAETH
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan bartneriaeth CUSP ac yn derbyn gwobr o docyn llyfr.
Cofiwch gyflwyno eich cynnig ar ffurf jpeg gan nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn cyswllt at:
erbyn 1pm, 31 Mai 2019
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.