
Mess up the Mess: Swyddog Gweinyddol Rhan-amser
Swyddog Gweinyddol Rhan-amser (0.8CALl)
Cyfnod sefydlog hyd nes mis Ionawr 2021
£23,120.23 pro rata
£18,496.18 mewn gwirionedd (29.6 awr yr wythnos)
Mae Mess Up The Mess yn gwmni theatr ieuenctid sy’n gweithio gyda phobl ifanc anodd eu cyrraedd a hawdd eu hanwybyddu, ledled De Cymru. Rydym yn chwilio am weinyddydd proffesiynol â phrofiad o gadw cyfrifon mewn mudiad bach.
Byddwch yn gweithio ar ein prosiect Well Iawn, sy’n defnyddio gweithgareddau drama a’r celfyddydau i gefnogi llesiant pobl ifanc. Mae arnom angen rhywun i gefnogi pob agwedd ar y gwaith o weinyddu’r prosiect hwn, ond yn enwedig cadw cyfrifon a chofnodion eraill. Bydd arnoch angen y brwdfrydedd a’r hyblygrwydd i weithio mewn amgylchedd heriol, sy’n symud yn gyflym, hefyd.
Ariennir y swydd hon gan y Gronfa Loteri Fawr.
Lawrlwythwch becyn cais oddi ar y wefan: http://www.messupthemess.co.uk neu ffoniwch 01269 591 167 am wybodaeth bellach.
Dyddiad cau: Dydd Llun 5 Tachwedd 1.00yp.
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Gwener 16 Tachwedd
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.