CD and Computer

Eich cyfle olaf i brynu meddalwedd Microsoft am bris gostyngol 01/07/12

Eich cyfle olaf i brynu meddalwedd Microsoft am bris gostyngol

Mae Microsoft wedi cyhoeddi’n ddiweddar ei fod am newid y drefn o ran pa elusennau a mentrau cymdeithasol sy’n gymwys i gael disgownt, sy’n golygu efallai na fydd rhai elusennau’n gallu prynu meddalwedd am yr un pris gostyngol, fel y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer.

O’r 1af Gorffennaf, 2012, ni fydd elusennau sy’n cael llai na deg y cant o’u refeniw o gyfraniadau gwirfoddol, yn gallu cael disgownt Academaidd Microsoft. O’r dyddiad hwnnw, bydd yn rhaid i’r grwpiau sy’n cael eu heffeithio gan y meini prawf newydd brynu dan Gytundeb Sector Cyhoeddus Microsoft – sy’n golygu cynnydd sylweddol ym mhris trwyddedau meddalwedd.

06/07/12: Diolch i gytundeb rhwng WCVA a Pugh Computers, gall aelodau WCVA ddal ati i brynu meddalwedd am y pris SELECT, a gynigiwyd o’r blaen, tan 30 Ebrill 2013.

Bydd y cynnig o gyflwyno cynnydd sylweddol yn y ffioedd trwyddedu yn peri anawsterau mawr i elusennau sydd eisoes yn wynebu cynnydd mewn costau, ac ni fydd yn cael llawer o groeso. Bydd y cynigion, fel ag y maent, yn effeithio ar amrywiaeth helaeth o’r sector, o elusennau adnabyddus i grwpiau bychan lleol. Mae WCVA, NCVO a SCVO wedi anfon sylwadau i Microsoft ynghylch effaith y ffioedd newydd, ond hyd yma nid ydynt wedi cymryd sylw o’r galwadau i drafod un ai’r meini prawf cymhwyso neu’r dyddiad gweithredu.

Mae Microsoft hefyd wedi cynyddu ei brisiau ar gyfer trwyddedau corfforaethol a myfyrwyr.

Os oes unrhyw grwpiau rai o’r grwpiau a effeithir yn dymuno prynu trwyddedau meddalwedd newydd am y pris gostyngol cyfredol, yna bydd modd iddynt wneud hynny tan 30 Mehefin 2012. Ffoniwch Pugh Computers, prif gyflenwr Microsoft yng Nghymru ar 01974 200 217 i gael rhagor o wybodaeth.

Gwefan Pugh Computers

Share