
Cymdeithas Adeiladu Nationwide – Grantiau Cymunedol
Mae’r rhaglen hon yn dyfarnu grantiau rhwng £10,000 a £50,000 i brosiectau tai lleol a fydd yn cryfhau cymunedau lleol drwy gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed drwy:
- Atal pobl rhag colli eu cartref
- Helpu pobl i mewn i gartref
- Cefnogi pobl i ffynnu yn amgylchedd y cartref
Mae enghreifftiau o brosiectau a ariannwyd llynedd i’w gweld ar wefan Nationwide – https://www.nationwide.co.uk/about/why-choose-nationwide/social-investment/community-grants/successful-projects#xtab:twisty-wales
I ddarllen y meini prawf llawn ac i wneud cais cliciwch yma – https://communityfoundationwales.org.uk/grants/nationwide-building-society-community-grants/
Dylai grwpiau gysylltu â Ffion Wyn Roberts i gael mwy o wybodaeth am y gronfa neu i drafod syniad prosiect trwy ffonio’r swyddfa ar 02920 379580 neu drwy anfon e-bost at grantiau@communityfoundationwales.org.uk
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.