Llogi Teclyn Profi Cyfarpar Cludadwy
Mae’n hanfodol eich bod yn Profi Cyfarpar Cludadwy er mwyn sicrhau bod cyfarpar trydanol yn cael eu defnyddio’n ddiogel ymhob adeilad cyhoeddus a masnachol. Mae sicrhau bod eich cyfarpar yn ddiogel yn medru helpu atal sioc drydanol, tân a difrod i gyfarpar.
Mae CAVS yn llogi teclynnau Profi Cyfarpar Cludadwy i safleoedd cymunedol, neuaddau a grwpiau ar draws Sir Gâr.
Fe fydd tâl bach ar gyfer cynnal a chadw’r cyfarpar, sef £10 bob tro fyddwch chi’n ei hurio, ac mae angen blaendal o £25. Rhaid dychwelyd y pecyn o fewn 3 diwrnod gwaith er mwyn cael y blaendal yn ôl. Rhaid bod unrhyw un sy’n cynnal Prawf Cyfarpar Cludadwy yn ddigon cymwys i wneud hynny.
Cynnwys y Pecyn:
- Teclyn Profi Cyfarpar Cludadwy a cheblau
- Cas ar gyfer y teclyn
- Sticeri ar gyfer cyfarpar sydd wedi pasio/methu
- DVD i ddangos sut i’w ddefnyddio
- Cyfarwyddiadau i ddefnyddio’r teclyn
- Taflenni print i gadw cofnod o brofion.
Ymwadiad: Nid yw CAVS yn cynnig hyfforddiant ar y teclyn Profi Cyfarpar Cludadwy ac ni ellir dal CAVS yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir nac unrhyw golledion a gafwyd o ganlyniad i’r defnydd o’r teclyn gan unrhyw un. Fe’ch cynghorir yn gryf i wylio’r DVD sy’n dangos sut i ddefnyddio’r teclyn yn ddiogel, cyn cynnal unrhyw brofion i Brofi Cyfarpar Cludadwy.
Cysylltwch â: Dolen Gymunedol Geltaidd ar 01267 245 555, neu e-bostiwch ccl@cavs.org.uk i gael gwybod mwy am sut i logi’r offer. CAVS, Y Mwnt, 18 Heol y Frenhines, Caerfyrddin, SA31 1JT.


