
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cefnogaeth o’r ‘Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol’
Ar 15 Tachwedd 2012, bydd y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr yn pleidleisio unwaith eto, y tro hwn er mwyn ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu newydd.
Bryd hynny, bydd y pedwar Awdurdod Heddlu presennol yng Nghymru (Gogledd Cymru, Dyfed Powys, De Cymru a Gwent) yn cael eu diddymu ac yn eu lle daw Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a gaiff eu hethol yn uniongyrchol.
Nod y Comisiynwyr newydd hyn fydd lleihau’r achosion o droseddu a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn eu hardal. Byddant yn gwneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:
- dal y Prif Gwnstabl yn gyfrifol am gyflawniadau’r heddlu
- llunio a diweddaru cynllun heddlu a throseddu
- pennu cyllideb yr heddlu a’r praesept
- ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau’n rheolaidd
- penodi, a lle bo angen, diswyddo’r prif gwnstabl.
Darperir gwasanaeth goruchwylio a chraffu gan y Paneli Heddlu a Throseddu newydd, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig o awdurdodau lleol yn ardal yr heddlu, yn ogystal ag aelodau annibynnol. Bydd ganddynt bwerau i graffu ar y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Yn ystod y cyfnod yn arwain at yr etholiad a’r newidiadau yn y dyfodol i gyllid, mae partneriaeth o fudiadau ledled Cymru a Lloegr yn darparu cefnogaeth i’r trydydd sector. Dan arweiniad Clinks a gyda chefnogaeth mudiadau sy’n cynnwys WCVA a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, mae ‘Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol’ yn gynghrair sy’n anelu at gefnogi mudiadau’r trydydd sector sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol, er mwyn dylanwadu ar flaenoriaethau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a threfniadau comisiynu lleol newydd eraill, i sicrhau cyllid a chyfleoedd partneriaeth, a chyflwyno gwasanaethau.
Bydd Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys mudiadau sy’n gweithio i leihau troseddu ac aildroseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac amrywiaeth, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod a merched a throseddu ieuenctid. Bydd hyn yn sicrhau y cynrychiolir buddiannau’r trydydd sector yn y trefniadau comisiynu lleol newydd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gefnogaeth y gall Cymunedau Diogelach i’r Dyfodol ei darparu, cysylltwch â Gaynor Davies ar gdavies@wcva.org.uk.